Grŵp Trawsbleidiol ar y Cyd ar Fenywod a Thrais yn Erbyn Menywod a Phlant

Noddir gan Siân Gwenllian AS a Sioned Williams AS

2ail Rhagfyr 2022

Zoom, 11:30-12:30

 


Yn bresennol:

Sioned Williams AS

Siân Gwenllian AS

Jessica Laimann, WEN Cymru

Jennifer Mills, Cymorth i Ferched Cymru (WWA)

Nancy Lidubwi, Bawso

Kirsty Thompson, JustRight Scotland

Laura Rainsford, WWA

Aliya Iftikhar, WWA

Maria Oftedal, Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru (WWDAS)

Paris Williams

Carol Harris, Hafan Cymru

Rachel Minto

Meg Thomas, Anabledd Cymru

Kelly Beaumont

Simon Borja, Cymru Ddiogelach

Tomos Evans, Chwarae Teg

Ele Hicks, Diverse Cymru

Eli Crouch-Puzey, NSPCC

Michelle Whelan, Gwasanaethau Trais Domestig Calan

Amy Bainton, Barnardo's Cymru

Chris Dunn

Larissa Peixoto

Maria a Stephanie, WWDAS

Sophie Weeks, WWA

 

Ymddiheuriadau:

 

Delyth Jewell AS

Carolyn Thomas AS

Rhun ap Iorwerth AS

Peredur Owen Griffiths AS

Laura McAllister

Rhianydd Williams, TUC Cymru

Jane Fenton-May, Cynulliad Merched Cymru

Sarah Rees, Oxfam Cymru

Sue Roberts, Stepping Stones

Abi Thomas, Plaid Cymru, etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro


 

1 Croeso, Ymddiheuriadau, Cyflwyniadau

Croesawodd Siân Gwenllian AS bawb i’r cyfarfod a nodwyd yr ymddiheuriadau.

 

Trafodwyd bod y cyfarfod hwn o’r grŵp trawsbleidiol ar y cyd yn digwydd yn ystod yr 16 diwrnod o weithredu yn erbyn trais ar sail rhywedd a ddechreuodd ar 25 Tachwedd i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Bydd yn dod i ben ar 10 Rhagfyr, sef Diwrnod Hawliau Dynol. Thema'r cyfarfod yw’r rheini nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus. Croesawyd siaradwyr y cyfarfod.

 

2 Ethol deiliaid swyddi

Enwebwyd Siân Gwenllian AS fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Fenywod gan Sioned Williams AS; eiliwyd gan Jennifer Mills, WWA; ac fe’i hetholwyd.

 

Enwebwyd WEN Cymru i ddarparu ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod gan Tomos Evans, Chwarae Teg; eiliwyd gan Meg Thomas, Anabledd Cymru; ac fe’i hetholwyd.

 

Enwebwyd Sioned Williams AS fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant gan Siân Gwenllian MS; eiliwyd gan Jessica Laimann, WEN Cymru; ac fe’i hetholwyd.

 

Enwebwyd WWA i ddarparu ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant gan Bernie Bowen-Thompson, Cymru Ddiogelach; eiliwyd gan Jessica Laimann, WEN Cymru ; ac fe’i hetholwyd.

 

3 Trais ar sail rhywedd a chefnogi goroeswyr nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus (NRPF)

 

 

 

 

 

Nancy Lidubwi – Rheolwr Polisi, Bawso

 

·         Rhyddhawyd adroddiad ym mis Hydref 2022 ar drais ar sail rhywedd: anghenion menywod mudol. https://senedd.cymru/media/cgwiwih0/cr-ld15422-w.pdf

·         Mae Bawso yn cefnogi goroeswyr trais o bob math, gan gynnwys caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl, priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd ac anffurfio organau cenhedlu benywod. Maent yn cynnig lloches mewn pedwar rhanbarth yng Nghymru, mae ganddynt dau dŷ diogel, ac maent yn darparu cymorth iechyd meddwl a lles yn ogystal â chymorth o ran cyflogaeth, hyfforddiant, biliau a chyllidebau.

·         Nid oes gan y rhai sy’n destun Adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 hawl i gyllid cyhoeddus, sy’n cynnwys triniaeth GIG, budd-daliadau lles, tai cymdeithasol, tai awdurdodau lleol, a chymorth cyfreithiol.

·         Rhesymau dros NRPF: ceiswyr lloches y gwrthodwyd eu ceisiadau, ffoaduriaid nad oes ganddynt eto ddogfennaeth, pobl a fasnachwyd i'r DU, a phobl sydd â NRPF yn amod o’u caniatâd i aros yn y wlad.

·         Comisiynodd Llywodraeth Cymru Ganolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe (CAB) i gynhyrchu canllawiau ar NRPF i helpu awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i gefnogi goroeswyr sydd heb hawl i arian cyhoeddus. Mae’n destun siom bod y canllawiau yn dal i eithrio pobl sy’n destun NRPF, gan gynnwys goroeswyr trais domestig.

·         Prosiect peilot y Swyddfa Gartref: dechreuwyd y llynedd, gweinyddwyd gan Southall Black Sisters. Rhwng 2021-22, cafwyd 171 o ymholiadau a chefnogodd Bawso 89 o’r menywod hyn, gan fod cyfyngiadau o hyd ar y bobl y gallant eu cefnogi, yn seiliedig ar ganllawiau'r Swyddfa Gartref, e.e. cyfyngiadau ar fisas, myfyrwyr rhyngwladol, ceiswyr lloches. Nid yw gweithwyr cymorth y Swyddfa Gartref wedi eu hyfforddi i ddarparu cymorth trais domestig.

·         Mae rôl gweithwyr cymorth trais domestig yn hanfodol i gefnogi menywod mewn modd cyfannol.

·         Y realiti ar lawr gwlad: arian cyhoeddus sy’n talu cyflogau staff ac am y llety lloches. Mae Bawso yn derbyn arian gan y Swyddfa Gartref trwy Southall Black Sisters i allu talu am dai cymdeithasol ar gyfer llety lloches, sy’n costio £282 yr wythnos. Nid yw prosiect peilot y Swyddfa Gartref yn cwmpasu cymorth staff.

·         Mae tua 70% o’r menywod yn llochesi Bawso yn fenywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus. Cyn prosiect y Swyddfa Gartref, roeddent yn dibynnu ar godi arian i gefnogi menywod mewn lloches, gan wario tua £24,000 y flwyddyn i gynnal menywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus.

·         Heriau: Mae prosiect peilot y Swyddfa Gartref yn dod i ben ym mis Mawrth 2023, ac mae’n rhaid chwilio am ddulliau eraill o gefnogi menywod. Cyflogau – pwy sy’n mynd i dalu cyflogau staff i gefnogi menywod oherwydd nad ydynt wedi’u hyswirio i gefnogi menywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus? Deddf Rhentu Cartrefi – beth sy’n digwydd i fenywod sydd angen eu hamddiffyn o nawr ymlaen nes bod awdurdodau lleol yn cyflwyno ac egluro eu cynlluniau i weithredu’r Ddeddf Rhentu Cartrefi?

·         Argymhellion: gobeithio y bydd yr adroddiad a’r argymhellion yn cael eu mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac y byddan nhw’n sefydlu cronfa argyfwng y gall menywod ei defnyddio i ariannu llety brys a phethau eraill.

 

Kirsty Thompson, Partner a Chyfarwyddwr, JustRight Scotland

 

·         Elusen wedi’i sefydlu gan gyfreithwyr hawliau dynol sy’n darparu cyngor cyfreithiol uniongyrchol i bobl a fyddai fel arall yn cael trafferth cael mynediad at y system gyfiawnder, gan gynnwys menywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus.

·         Mae NRPF yn gyfyngiad ar draws y DU gyfan, ac felly mae’r amod NRPF yn berthnasol yn yr un modd yn yr Alban. Mae JustRight yn edrych ar sut i ddelio â hyn o fewn cyd-destun datganoledig. Mae’r cyfyngiad yn atal Llywodraeth, llywodraeth leol a chymdeithas sifil rhag ymateb yn y ffordd yr hoffem i drais ar sail rhywedd.

·         Nid oes data manwl gywir ond mae amcangyfrifon yn awgrymu bod gan 1.31 miliwn o bobl yr amod hwn ynghlwm wrth eu fisa, a bydd y gwir ffigur yn llawer uwch. Mae tua thri chwarter yn meddu ar fisas astudio a gwaith ac un rhan o bump yn dal fisas teulu.

·         Cymerodd Bwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Senedd yr Alban dystiolaeth ar hyn a chyhoeddi adroddiad.

·         Yn 2021, daeth Llywodraeth yr Alban a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA) ynghyd a gwneud ymrwymiad clir i leddfu’r risgiau sy’n gysylltiedig â NRPF. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd strategaeth i wella’r cymorth sydd ar gael i bobl yn yr Alban nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus. Deilliodd llawer o fentrau o'r strategaeth hon. Roedd ymdrech wirioneddol ar bob lefel i gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth. Beth yw arian cyhoeddus, beth yw ein dyletswyddau statudol, a sut y gallwn ddod o hyd i ffynonellau cyllid eraill i gefnogi pobl nad ydynt yn dod o fewn diffiniad NRPF?

·         Mae canllawiau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol wedi’u cynhyrchu gan COSLA, JustRight Scotland a NRPF Network a’u cynnal ar wefan Migration Scotland, ynghyd â rhaglen hyfforddi eang. Maen nhw’n cynnwys adran benodol ar drais yn erbyn menywod.

·         Rhaid canolbwyntio ar fanteision gweithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector. Er enghraifft, mae'r Groes Goch Brydeinig yn rheoli cronfa yn yr Alban a ariannir gan Lywodraeth yr Alban i gefnogi ystod o bobl sy'n wynebu tlodi oherwydd NRPF. Yn ogystal, mae Fairway Scotland yn bartneriaeth o elusennau allweddol yn yr Alban, academyddion, asiantaethau cyfreithiol, a chyllidwyr, i ddatblygu llwybr hawliau dynol i roi terfyn ar tlodi sy’n gysylltiedig â NRPF. Y nod yn y pen draw yw darparu llety a chyfres o wasanaethau cyfannol ledled yr Alban o fewn cyfyngiadau’r setliad cyfansoddiadol o ran NRPF.

·         Prosiect wedi’i dargedu’n benodol at fenywod sydd mewn perygl o ddioddef trais neu sy’n ffoi rhag trais: mae partneriaeth o asiantaethau statudol ac anstatudol yn Glasgow yn creu menter ar y cyd wedi’i chyllido i ddatblygu a gweithredu prosiect ar gyfer menywod a merched sydd wedi goroesi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol (VAWDASV), lle nad oes gan y rheini hawl i arian cyhoeddus, gan ddarparu rhwyd ddiogelwch sylfaenol, gan gynnwys llety a mynediad at gyngor cyfreithiol arbenigol.

·         Mae angen yr ewyllys wleidyddol a chyllid ar strategaethau. Yn aml, mae strategaethau'n bodoli ond nid ydynt yn cysylltu.

 

Laura Rainsford, Cydlynydd Meithrin Gallu, Cymorth i Ferched Cymru

 

·         Wrth ffoi rhag camdriniaeth, mae menywod mudol yn wynebu myrdd o rwystrau ychwanegol sy’n gymhleth ac yn cydblethu ac a all olygu eu bod yn dewis rhwng tlodi a dychwelyd at y sawl sydd wedi eu cam-drin.

·         Oherwydd y ffordd y mae’r rhwydwaith lloches yn y DU yn dibynnu ar y grant cymorth tai a’r budd-dal tai, sydd weithiau yn cael eu hystyried yn gronfeydd arian cyhoeddus, mae menywod sydd heb hawl cyrchu cronfeydd cyhoeddus yn wynebu heriau enfawr ac oedi hir.

·         Gall aelodau WWA gefnogi nifer fach o oroeswyr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, ond heb gyllid drwy'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r consesiwn trais domestig, mae’n rhaid i wasanaethau ddefnyddio arian sydd ganddynt wrth gefn.

·         Oherwydd y newidiadau sydd i ddod yn sgîl y Ddeddf Rhentu Cartrefi, disgwyliwn y bydd gwasanaethau’n teimlo’n llai ac yn llai abl i dderbyn goroeswyr mudol lle nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, heblaw fod cyllid sicr ar gael.

·         Datblygodd WWA becyn cymorth yn ogystal â llythyr agored ym mis Mawrth 2021 mewn ymateb i’r ffaith bod staff eu haelodau a’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn eisiau deall hawliau goroeswyr sy'n destun rheolaeth fewnfudo yn well.

·         Mae’r pecyn cymorth yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r cymorth sydd ar gael a’r hawliau sydd gan oroeswyr mudol, gan roi’r arfau allweddol i wasanaethau VAWDASV i gael mynediad at y cymorth hwnnw, gan y gwyddom fod goroeswyr yn aml yn disgyn drwy’r bylchau cyn cael mynediad at wasanaethau oherwydd diffyg dealltwriaeth neu diffyg ymwybyddiaeth o hawliau.

·         Mae’r pecyn cymorth wedi'i wreiddio yn Safonau Ansawdd Gwasanaeth Cenedlaethol (NQSS) Cymorth i Ferched Cymru, sy'n canolbwyntio ar sicrhau nad oes unrhyw oroeswr yn derbyn lefel wahanol o gymorth gan ddarparwr gwasanaeth arbenigol oherwydd eu statws mewnfudo neu eu statws o ran mynediad at arian cyhoeddus.

·         Datblygwyd gydag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Praxis, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a sefydliadau cyfreithiol.

·         Mae wyth rhan i’r pecyn cymorth:

1.       Cyflwyniad i reolaeth fewnfudo

2.       Llwybrau at lety a chymorth

3.       Llythyrau templed ar gyfer dod o hyd i gefnogaeth i oroeswyr

4.       Prosiect protocol cyn dwyn achos os yw cais yn aflwyddiannus

5.       Llythyr templed i herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau i ganslo budd-daliadau drwy'r Consesiwn Amddifadedd Trais Domestig (DDVC)

6.       Rhestr o linellau cymorth, gwasanaethau, adnoddau, a sefydliadau defnyddiol

7.       Cyfeiriadur o opsiynau ariannu

8.       Ymatebion i gyfres o gwestiynau cyffredin

·         Mae adborth gan wasanaethau arbenigol yn dangos bod y pecyn cymorth yn wirioneddol yn eu helpu i gefnogi goroeswyr mewn lloches ac i ganfod y cymorth ariannol sydd ar gael.

·         Camau i’w cymryd: Fforwm NRPF WWA, ymgyrch barhaus ar gyfer cronfa Argyfwng/Cam Olaf Cymreig, yr hyfforddiant ar gyfer staff Byw Heb Ofn yr ymgynghorwyd arno gyda Southall Black Sisters, hyfforddiant staff gwasanaethau cyhoeddus/awdurdodau lleol, gwella llwybrau at gymorth cyfreithiol i fenywod heb hawl i arian cyhoeddus.

 

4 Trafodaeth a chwestiynau gan rhai a oedd yn bresennol

 

Nododd Sioned Williams ei bod wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad a grybwyllwyd gan Nancy ac rydym yn dal i aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â’r adroddiad. Un o’r argymhellion allweddol yw edrych ar y gwaith sydd wedi bod yn digwydd yn yr Alban i ddysgu o’u gwaith.

 

 

Nododd Jessica Laimann fod gan yr Alban bellach gronfa argyfwng mewn lle, a gyda’r ddeddfwriaeth esblygu yn y DU, er enghraifft gyda’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, cododd y cwestiwn: a oes unrhyw wersi i’w dysgu o ran gwneud y rhain yn fwy cadarn?

·         Canfu llawer o'r gwaith a wnaed yn yr Alban ynghylch cyfyngiadau cyfreithiol, cyfyngiadau o ran mudo, ond hefyd cyfyngiadau gyfansoddiadol, ddiffyg dealltwriaeth gwirioneddol ar sawl lefel o ran y problemau a’r ffaith na all heriau cyfreithiol ddatrys y problemau hyn. Mae angen newid gwleidyddol go iawn.

·         Mae'n bwysig i weithwyr polisi ac i seneddwyr deall beth sy'n dod, pa mor bell mae'r polisi'n mynd, a gwneud yn siŵr bod prosesau yn eu lle i sicrhau dealltwriaeth a newid gwleidyddol.

 

 

Cynigiodd Sioned Williams weithred o ran y Ddeddf Rhentu Cartrefi.

Cam i’w cymryd: anfon llythyr oddi wrth y Grŵp Trawsbleidiol ar y cyd hwn, yn ailadrodd y pryderon a fynegwyd yn y llythyr agored gan Gymorth i Ferched Cymru i sicrhau bod ymgynghori ystyrlon yn digwydd ar fyrder rhwng y Gweinidog a WWA. Derbyniwyd y cynnig.

 

Bernie Bowen-Thompson: Nid yw Erthygl 59 ac Erthygl 4(3) o Gonfensiwn Istanbul heb eu cadarnhau, sy'n effeithio ar oroeswyr mudol. O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod a’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar waith, mae angen inni gryfhau rhywfaint o hynny. Efallai ei bod yn werth tanlinellu hyn gan ei bod yn cyd-fynd â’r ffaith bod pawb sy’n profi VAWDASV yn haeddu cefnogaeth.

 

Nododd Nancy Lidubwi fod Bawso wedi cael eu cynghori i beidio â derbyn ceisiadau i atgyfeirio unigolion a'u bod yn gwrthod menywod oherwydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi.

 

Nododd Laura Rainsford fod nifer o wasanaethau wedi'u dychryn gan risgiau'r Ddeddf Rhentu Cartrefi ac felly'n betrus iawn ynghylch atgyfeirio. 

 

Nododd Sioned Williams fod bwlch yn y strategaeth VAWDASV ar ei newydd wedd o ran profiadau menywod mudol sy’n goroesi VAWDASV a dywedodd y Gweinidog y byddai maes gwaith yn ymwneud â hyn yn cael ei sefydlu o fewn ffrydiau gwaith y strategaeth VAWDASV.

Cam i’w cymryd: y Grŵp Trawsbleidiol ar Drais yn Erbyn Menywod a Phlant i ofyn am ddiweddariad ar y gwaith hwn ac am ragor o fanylion.

 

 

5 Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Menywod yn Ewrop (Cymru)

Rachel Minto – Canolfan Llywodraethiant Cymru

·         Mae’r gyfarwyddeb menywod ar fyrddau bellach wedi’i chymeradwyo felly mae’r darn hwn o ddeddfwriaeth bellach yn bodoli yn yr Undeb Ewropeaidd.

·         Yn aros am gynnig newydd y Comisiwn ar y gyfarwyddeb gwrth-fasnachu.

·         Bob 6 mis, mae aelod-wladwriaethau yn cymryd eu tro i gadeirio Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Sweden sy’n gwneud hyn dros 6 mis cyntaf 2023.

Cam i’w cymryd: ychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod.

6 – Unrhyw fater arall

Croesawodd Sioned Williams y gweithio ar y cyd rhwng y ddau grŵp trawsbleidiol.